Mae Kensuke's Kingdom yn adrodd antur epig Michael, bachgen ifanc sy'n cychwyn ar daith hwylio ryfeddol gyda'i deulu. Ond buan iawn y mae chwarae’n troi’n chwerw pan fydd storm enbyd yn taro gan achosi i Michael a’i gi Stella gael eu hysgubo o’r cwch, cyn iddyn nhw gael eu golchi i’r lan ar ynys anghysbell lle maen nhw’n wynebu brwydr i oroesi. Ar ôl tipyn, mae Michael yn darganfod nad yw ar ei ben ei hun pan ddaw wyneb yn wyneb â dyn dirgel o Japan o'r enw Kensuke a fu’n byw yno'n gyfrinachol ers yr Ail Ryfel Byd. I ddechrau, mae'r bachgen a'r hen ddyn yn ddrwgdybus o'i gilydd, ond pan fydd tresmaswyr peryglus yn ymddangos ar y gorwel, mae'n amlwg bod yn rhaid i Michael a Kensuke uno i achub eu paradwys fregus o ynys.
Wrth ei gwraidd mae Kensuke’s Kingdom yn ffilm am faint rydym angen ein gilydd, ac am ein cyfrifoldebau, nid yn unig i bobl eraill, ond i'r holl greaduriaid sydd yn sownd gyda ni ar yr ynys fach hon rydyn ni'n ei galw'n Ddaear.
Yr hyn rydw i eisiau i’r gynulleidfa ei gael o ffilm Kensuke’s Kingdom yw mor bwysig yw cariad rhwng pobl a rhyngom ni a’r blaned. Mae'n stori am gymod, hen ac ifanc, nhw a ni, ni ein hunain a'r byd o’n cwmpas, a ddaw i’r amlwg drwy sensitifrwydd Michael, ond hefyd drwy ddoethineb Kensuke, a'r berthynas rhwng y ddau.
Fel yr aelod ieuengaf o'r teulu, mae Michael yn teimlo nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif. Rhywun y mae'n teimlo ar delerau cyfartal â hi yw ei gi annwyl Stella, sydd bob amser wrth ei ymyl. Mae Michael wrth ei fodd yn tynnu lluniau, ac mae’n llenwi llyfr log y cwch â darluniau o bopeth y mae’n ei weld ar y daith.
Ag yntau’n fregus, ond eto’n ddygn, bydd y ddau rinwedd hyn yn dod i’r amlwg pan gaiff ei wahanu oddi wrth ei deulu ac wrth iddo frwydro i oroesi ar ynys drofannol, ymhell o bopeth sy’n gyfarwydd iddo.
Mam
Magwyd Mam yn un o faestrefi clyd de Llundain. Yr hynaf a’r mwyaf beiddgar o dri, arferai arwain ei brawd a’i chwaer iau ar anturiaethau dringo coed a hi oedd y cyntaf bob amser i blymio i ddŵr oer y lido, beth bynnag fo’r tywydd. Datblygodd ei chariad at y môr yn ifanc wrth ymuno â Sgowtiaid y Môr, gan fagu ei diddordeb gydol oes mewn hwylio. Ar ôl gwneud yn dda yn y coleg, aeth Mam i rigol mewn swydd ddiflas mewn swyddfa lle y gwnaeth gyfarfod â'r dyn a fyddai'n dod yn ŵr iddi. Dyma nhw’n uno yn eu hoffter o ddianc o'r ddinas ac archwilio'r awyr agored. A hithau’n ddiplomydd naturiol, mae'n ymdrin â thrychinebau a thymer ddrwg yn bwyllog ac fel arfer gall dawelu sefyllfa gydag ychydig eiriau dethol.
Dad
Magwyd Dad ar fferm ar gyrion Dulyn. Ac yntau’n gynnes a chymdeithasol, roedd yn un o bump, gyda mwy o gefndryd nag y gallai eu cyfrif, a byddai un o gŵn y teulu bob amser wrth ei ochr. Pan symudodd Dad i Lundain i chwilio am gyfle, disgynnodd yntau hefyd i swydd ddiflas mewn swyddfa. Ond daeth tro ar fyd pan gyfarfu â'r fenyw a fyddai'n dod yn wraig iddo. A hwythau â dau o blant yn tyfu, ac yn teimlo bod eu blynyddoedd gorau’n diflannu yn y ras wyllt, dyma ffawd yn troi wrth i’r cwmni’r oedden nhw’n gweithio iddo fynd i’r wal. Byddai hyn yn trawsnewid eu bywydau, gan eu gwthio i lunio cynllun i werthu eu tŷ, prynu cwch, a mynd â’u teulu ar antur oes. Prif bryder Dad yw lles ei deulu. Er ei fod yn mynnu ei awdurdod fel rhiant, mae ei ymdrechion i fod yn llym yn cael eu gwatwar a’u rhoi i’r neilltu’n dawel.
Becky
Chwaer Michael, sydd yn ei harddegau. Er ei bod yn wynebu mordaith hir ymhell oddi wrth ei ffrindiau gartref, mae Becky yn ddigon aeddfed i fwynhau cwmni Mam a Dad ar lefel oedolyn. Maen nhw’n ymddiried ynddi i fod yn fwy annibynnol, a chaiff dasgau mwy diddorol i’w gwneud ar gwch y teulu, sy’n dân ar groen Michael. Mae’r berthynas rhyngddi â’i brawd yn un o garu’r un funud a chasáu’r nesaf, a hithau’n mwynhau ei gwmni weithiau, ond dro arall yn hapus yn achosi trwbl iddo.
Kensuke
Yn Nagasaki y cafodd Kensuke ei eni a'i fagu. Hyfforddodd fel meddyg a chafodd ei gonsgriptio i lynges Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan adael ei wraig a'i fab ifanc ar ôl. Ar y môr, mae Kensuke yn clywed bod bom atomig wedi'i ollwng ar Nagasaki, gan ddinistrio llawer o'r ddinas. Mae Kensuke yn tybio bod ei deulu ei hun wedi marw. Yna caiff ei long ryfel ei tharo gan dorpido a chaiff ei olchi ymaith i ynys anghysbell. Mae Kensuke yn treulio sawl degawd yn byw ar ei ben ei hun ar yr ynys, yn adeiladu tŷ pen coeden yn uchel uwchben y jyngl. Ac yntau wedi addasu'n llwyr i rythmau'r ynys, caiff ei amser ei fesur gan y llanw a thro'r tymhorau. Mae’n tyfu neu’n chwilota am ei fwyd, ac mae'n dysgu gwneud offer a dodrefn o ddeunyddiau y mae’n eu darganfod. Ac yntau’n gymeriad addfwyn a pharchus, mae wedi ennill ymddiriedaeth bywyd gwyllt yr ynys ac mae hwythau’n ei drin fel un ohonyn nhw. Ond caiff ei fyd ei droi ben i waered wrth i fachgen un ar ddeg oed o Loegr gyrraedd.
Stella
Ci’r teulu, ffrind gorau Michael, a rhywun sydd bob amser un cam ar y blaen i'w chymheiriaid dynol.
Tomodachi
Mae Tomodachi yn fatriarch mewn grŵp o orangwtaniaid sy'n byw ar yr ynys. Mae'n hynod wyliadwrus o bobl, ond o dipyn i beth, daeth i ymddiried yn Kensuke. Mae potsiars yn fygythiad bythol i'r ffawna ar yr ynys, ac mae creithiau Tomodachi yn tystio i ymosodiad blaenorol a fu bron â’i lladd.
Kikanbo
Plentyn Tomodachi yw Kikanbo. Yn groes i’w mam, ei phroblem hi yw ei bod yn hoff iawn o bobl, ac yn cael eu denu atyn nhw ar bob cyfle. Bydd hyn, ar adegau, yn ei rhoi mewn sefyllfa berygl.