Sarah Radclyffe
Cynhyrchydd
Ym 1984, cyd-sefydlodd Sarah Radclyffe Working Title gyda Tim Bevan gan gynhyrchu sawl ffilm yno gan gynnwys 'My Beautiful Laundrette', 'Wish You Were Here', ac 'A World Apart'. Wedi i Working Title gael ei brynu, gadawodd Sarah i sefydlu ei chwmni ei hun, Sarah Radclyffe Productions. Ers hynny, bu’n gynhyrchydd neu’n gynhyrchydd gweithredol ar ffilmiau yn cynnwys 'Les Miserables', 'The Edge of Love', a'r ffilm animeiddiedig 'Free Jimmy' a enillodd yr Annecy Cristal. Darparodd Sarah hefyd wasanaethau cynhyrchu ym Mhrydain i’r ffilm 'A Monster Calls' gan JA Bayona ac yn 2019 bu’n gynhyrchydd gweithredol ar 'Close', ffilm weithredol fenywaidd a gyfarwyddwyd gan Vicky Jewson gyda Noomi Rapace yn serennu.