Ruth Fielding

Ruth Fielding

Cynhyrchydd

Mae Ruth yn gynhyrchydd creadigol, ac mae ganddi radd meistr o RADA a Kings College. Dechreuodd ei gyrfa mewn fideos corfforaethol gweithredu byw, digwyddiadau a chynhyrchu theatr cyn symud i faes comisiynu gwaith animeiddio yn Channel 4 lle cyfarfu â'i phartner busnes Camilla Deakin. Trwy eu cwmni Lupus Films, mae'r pâr wedi cynhyrchu ffilmiau animeiddiedig a gweithredu byw, rhaglenni arbennig a chyfresi, gan ennill Gwobrau BAFTA ac Emmy am lawer ohonyn nhw.

Yn ogystal â'r addasiad animeiddiedig o 'Kensuke's Kingdom', yn ddiweddar maen nhw’n wedi creu cyfres i rai cyn oed ysgol ar gyfer platfform ffrydio mawr a rhaglen calan gaeaf arbennig i Sky, 'The Ghastly Ghoul', sydd bellach ar gael ar Disney yn yr Unol Daleithiau. Mae rhaglen deledu ddiweddaraf Lupus Films, 'Mog's Christmas' yn seiliedig ar y llyfr lluniau annwyl gan Judith Kerr ac fe'i lansiwyd ar Channel 4 adeg Nadolig 2023.

Gwyliwch gyfweliad Ruth Fielding

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×