Richard Overall
Golygydd a Chyfarwyddwr Llais
Hyfforddodd Richard yn y National Film and Television School, a threuliodd ugain mlynedd yn gweithio ym maes animeiddio fel golygydd, cyfarwyddwr llais ac awdur. Ef oedd golygydd a chyfarwyddwr llais pob un o chwe thymor 'The Amazing World of Gumball', gan ennill Gwobr Animeiddio Prydain am ysgrifennu. Cafodd ei enwebu am wobr Golygyddion Ffilm Prydain am gyfres Cartoon Network 'Elliott from Earth'. Golygodd yr addasiad ffilm nodwedd o 'Ethel and Ernest', a'r rhaglenni arbennig a enwebwyd am wobrau BAFTA, 'The Snowman and the Snowdog' a 'The Tiger Who Came to Tea'. Bu Richard hefyd yn gyfarwyddwr llais ar gyfresi ar gyfer Netflix, Nickelodeon, Lego a Disney.
Gwyliwch gyfweliad Richard Overall