Michael Morpurgo

Michael Morpurgo

Awdur

Ysgrifennwyd 'Kensuke's Kingdom' gan Michael Morpurgo ac fe'i cyhoeddwyd gyntaf ym 1999. Ers hynny mae wedi’i chyfieithu i 24 o ieithoedd, yn ogystal â bod yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn sawl tiriogaeth, ac mae wedi gwerthu dros ddwy filiwn o gopïau gan ddod yn glasur sy’n annwyl i lawer.

Michael yw un o hoff awduron a storïwyr Prydain ac fe’i penodwyd yn Awdur Llawryfog y Plant yn 2003. Derbyniodd OBE yn 2007 ac fe’i hurddwyd yn Farchog yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2018 am wasanaethau i lenyddiaeth ac elusennau. Mae wedi ysgrifennu dros 150 o lyfrau, gan gynnwys 'The Butterfly Lion', 'Kensuke's Kingdom', a 'War Horse', a addaswyd i’r llwyfan gan y National Theatre, ac a addaswyd yn ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Steven Spielberg. Gyda'i wraig Clare, sefydlodd elusen Farms for City Children, sy'n cynnig cyfle i blant ac athrawon o ysgolion cynradd canol dinas fyw a gweithio yng nghefn gwlad.

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×