Camilla Deakin

Camilla Deakin

Cynhyrchydd

Dechreuodd Camilla ei gyrfa fel newyddiadurwraig lawrydd cyn symud ymlaen i gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni dogfen a chelfyddydol i’r teledu. Ymunodd â Channel 4 yn 1999 fel Golygydd, Y Celfyddydau ac Animeiddio, lle cyfarfu â Ruth Fielding. Yn 2002, aeth y ddwy ati i gyd-sefydlu Lupus Films. Trwy Lupus Films, mae'r pâr wedi cynhyrchu llawer o ffilmiau animeiddiedig a byw, rhaglenni arbennig a chyfresi gan ennill nifer o wobrau. Ymhlith y rhain mae'r rhaglenni arbennig a enwebwyd am wobrau BAFTA, 'The Snowman and The Snowdog' a 'We're Going on a Bear Hunt', a 'The Tiger Who Came to Tea' a enillodd wobr Emmy Rhyngwladol.

Yn ogystal â chynhyrchu 'Kensuke's Kingdom', mae Lupus Films wedi cynhyrchu nifer o ffilmiau nodwedd gan gynnwys addasiad animeiddiedig o nofel graffig Raymond Briggs, 'Ethel & Ernest', rom-com gweithredu byw, 'A Christmas Number One' ar gyfer Sky ac Universal Pictures, ac ar hyn o bryd mae ganddyn nhw nifer o ffilmiau animeiddiedig a gweithredu byw ar wahanol gamau o gyn-gynhyrchu a datblygu.

Gwyliwch gyfweliad Camilla Deakin

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×